Lleoliad y cyfarfod:
Siambr Hywel - Tŷ Hywel
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Mai 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15109
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3-8. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 9. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3-9. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Atebwyd gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am
yr effaith y bydd yr oedi i gam 2 gwaith atgyweirio Pont Menai yn
ei chael ar Ynys Môn?
Atebwyd
gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig
Rhys ab Owen (Canol De Cymru): Pa fesurau sy'n cael eu trafod rhwng Llywodraeth
Cymru a Dŵr Cymru i wella diogelwch yr amgylchedd tra'n
sicrhau bod biliau dŵr yn darparu gwir werth am arian i
ddefnyddwyr?
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gwnaeth Carolyn Thomas ddatganiad ar am - Diwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth (22 Mai).
Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - Wythnos Gweithredu dros Anafiadau i’r Ymennydd (19-25 Mai)
Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Nodi marwolaeth Michael Jones a’i gyfraniad i Addysg (16 Mai).
Dechreuodd yr eitem am 15.52
NDM8903 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2025.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.29
NDM8904 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Cysylltiadau Rhyngwladol Adroddiad Blynyddol 2024’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth 2025.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8906 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.
2. Yn cydnabod gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU i:
a) gweithredu ar ymrwymiad blaenorol gan y blaid Lafur i unioni’r cam a wnaed i fenywod a anwyd yn y 1950au yng Nghymru ac y mae newidiadau i bensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt;
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn ôl chwyddiant; ac
c) trin aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain a chynllun pensiwn y glowyr yn gyfartal.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r achos dros weithredu ar y materion hyn er gwaethaf ei phartneriaeth mewn pŵer, ac yn galw arni i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU i:
a) gweithredu argymhellion Ombwdsmon
Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i fenywod y 1950au;
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn unol
â chwyddiant; ac
c) estyn Cynllun Pensiwn y Glowyr i gynnwys aelodau Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
12 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran:
a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;
b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac
c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
23 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.
2. Yn cydnabod gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain.
3. Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr.
4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran:
a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;
b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac
c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
23 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.00
Dechreuodd yr eitem am 18.03
NDM8905 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cymru ac Ewrop: chwalu'r rhwystrau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Mehefin 2025